IAITH is expanding

08 February 2022

IAITH is looking for a freelance or fixed-term* Field and Research Officer to support the company's project work.

The ability to work in both Welsh and English to a professional standard is essential.


IAITH is expanding

Bydd y swyddog yn cefnogi Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant a Chyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu IAITH ar dasgau amrywiol ac ar amrywiaeth o brosiectau.

Bydd y tasgau yn cynnwys:

  • Ymuno â chyfarfodydd cynllunio a datblygu prosiectau
  • Cynnal cyfweliadau ffôn/ar-lein fel ffordd o gasglu gwybodaeth 
  • Cefnogi’r gwaith o gynnal grwpiau ffocws
  • Cynnal ymchwil pendesg
  • Dadansoddi data
  • Drafftio adroddiadau
  • Cefnogi gyda tasgau dydd-i-ddydd y prosiectau

Bydd oriau’r swydd yn hyblyg ac yn ddibynnol ar ofynion y gwaith ac argaeledd y sawl sy’n cael eu penodi, yn unol â pholisi gweithio’n hyblyg y cwmni. Disgwylir mai o’i g/cartref bydd y swyddog yn gweithio’n bennaf ond ceir cefnogaeth weinyddol o’n swyddfeydd yng Nghastellnewydd Emlyn a Bae Colwyn. Croesawn geisiadau o unrhyw le yng Nghymru neu tu hwnt i Gymru. Mae trefniadau gweithio o bell yn eu lle a gellir cadarnhau’r trefniadau hynny yn dilyn penodiad i’r swydd.

Mae IAITH wedi ymrwymo i'r egwyddor o gyfle cyfartal mewn cyflogaeth.

I wneud cais anfonwch eich CV at post@iaith.cymru erbyn 18 Chwefror 2022 ac mae croeso mawr i chi gysylltu gyda Kathryn am sgwrs anffurfiol ar 07867 420990.

*Gall IAITH dderbyn unigolyn i’r swydd hon ar gyfnod secondiad