Iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
Mae gan IAITH brofiad sylweddol o weithio gyda’r sector iechyd a gofal o safbwynt hyfforddi, ymgynghori a chynnal gwaith ymchwil a datblygu.
Ers 30 mlynedd mae staff IAITH wedi bod ar y blaen yn datblygu adnoddau hyfforddi arloesol ac yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer y sector. Ymhlith ein cwsmeriaid mae Cyngor Gofal Cymru; Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru; Comisiynydd y Gymraeg; Coleg Cymraeg Cenedlaethol a nifer o awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac elusennau mawr ym maes gofal.
Yn 2015 roeddem yn falch iawn o ddatblygu’r CAEA dwyieithog (Cwrs Agored Enfawr Ar-lein) cyntaf ar y Gymraeg i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
IAITH hefyd oedd yn gyfrifol am gynnal ymchwil defnyddwyr ar ran Llywodraeth Cymru a oedd yn gefndir i strategaeth Mwy na geiriau.
Ar sail ein profiad, ein dealltwriaeth a’n harbenigedd gallwn:
- ddarparu cyrsiau hyfforddi neu weithdai byrrach ar Mwy na geiriau a sut i’w weithredu’n effeithiol
- cynnig ystod o wasanaethau ymchwil, datblygu ac ymgynghori ar ddefnyddio a datblygu’r Gymraeg ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- teilwra gwasanaeth neu hyfforddiant i gwrdd â’ch union anghenion.
Cysylltwch â Bethan i drafod: post@iaith.cymru
Sylwadau diweddar am weithdai hyfforddi Mwy na geiriau:
“Mae’r cwrs wedi rhoi hyder i mi oresgyn rhai o fy ofnau mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae wedi helpu gyda phlannu’r hadau wrth gyflwyno’r cyd-destun Cymreig i’r gweithle
“Roedd yn ddefnyddiol iawn i mi ddefnyddio’r strategaeth Mwy na geiriau mewn ffyrdd ymarferol, h.y. edrych ar astudiaethau achos ac enghreifftiau ar gyfer fy arfer fy hun.
“Mi wnes i fwynhau yr hyfforddiant yn fawr. Roedd yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig.”