Cynllunio iaith corfforaethol


Beth yw ‘cynllunio iaith corfforaethol’? Yng ngyd-destun y Gymraeg, rydym yn defnyddio’r term yma i gyfeirio at gynllunio ieithyddol o fewn sefydliadau. Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â chynyddu defnydd y Gymraeg a dwyieithrwydd wrth ddarparu gwasanaethau ac mewn gweinyddiaeth fewnol. Mewn perthynas Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 roedd cannoedd o gyrff cyhoeddus, ynghyd â nifer fawr o gyrff gwirfoddol, yn gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg. Ers 2015, mae cyrff sy’n ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn wynebu’r her o fabwysiadu a gweithredu Safonau’r Iaith Gymraeg. Mae nifer cynyddol o gwmnïau preifat a’r trydydd sector yn arddel polisïau a chynlluniau iaith yn cydymffurfio â’r Cynnig Cymraeg.

Fel y cyntaf i ddatblygu'r maes proffesiynol hwn, mae profiad IAITH o ddarparu gwasanaethau cynllunio iaith corfforaethol heb ei ail. Mae prif sefydliadau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Senedd Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol amlwg, cyrff gofal iechyd a gofal cymdeithasol, heddluoedd a chyrff eraill yn y sector gweinyddu cyfiawnder, awdurdodau tân ac amryw o gyrff eraill ymhlith ein cleientiaid. Rydym hefyd yn cefnogi nifer gynyddol o gwmnïau preifat, mudiadau trydydd sector a chleientiaid rhyngwladol.

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol:

  • datblygu dulliau gweithredu a systemau sydd yn helpu cyrff i gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg
  • hwyluso gweithrediad y Safonau ac arfer dwyieithog da
  • darparu hyfforddiant iaith, cadernid iaith a newid ymddygiad
  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i reolwyr a staff
  • darparu hyfforddiant a chyngor ar faterion recriwtio a phenodi
  • Strategaethau Sgiliau Iaith
  • cynnal awdit sgiliau iaith 
  • prif-ffrydio'r Gymraeg
  • datblygu gweithleoedd dwyieithog
  • llunio canllawiau i staff a briffio staff
  • llunio strategaethau hyfforddiant
  • gofal cwsmer a’r Gymraeg
  • y Gymraeg a’r cydraddoldebau
  • sefydlu a chefnogi Swyddogion Iaith

Rydym hefyd yn datblygu a gweithredu nifer o brosiectau arloesol ar y cyd â'n cleientiaid, gan gynnig atebion dychmygus i anghenion penodol. Am restr enghreifftiol o weithgareddau cyfredol IAITH yn y maes hwn cliciwch y cyswllt hwn.

Byddem yn falch o drafod eich anghenion yng nghyswllt unrhyw agwedd o ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol.

Cysylltwch â Kathryn i drafod: post@iaith.cymru