Addysg Gymraeg a Dwyieithog i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol.

Mae  Dr Gwennan Higham ar ran Prifysgol Abertawe a  IAITH: y ganolfan cynllunio iaith  wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn cynnal gweithdai ar y thema Addysg Gymraeg a Dwyieithog i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol. 


Y bwriad yw casglu pobl at ei gilydd i drafod y cyfleoedd a heriau sydd i hyn gyda’r nod o roi cais ymchwil at ei gilydd maes o law. Y gobaith yw cynnal 5 gweithdai ar y themâu isod:

1.            Mapio’r ddarpariaeth gyfredol (pennu a nodi amcanion)

2.            Mynediad i Addysg Gymraeg / Ddwyieithog i bawb: Profiadau Personol 

3.            Heriau a chyfleoedd i Addysg Cyfrwng Cymraeg – blynyddoedd cynnar a chynradd 

4.            Heriau a chyfleoedd i Addysg Cyfrwng Cymraeg – uwchradd

5.            Adnabod a llunio cynllun prosiect(au) ar gyfer cais/ceisiadau ymchwil

                                              

Gweithdy 1 - Mapio’r Ddarpariaeth Gyfredol

3 Tachwedd 2021

Crynodeb

 

Gweithdy 2 - Mynediad i Addysg Gymraeg / Ddwyieithog i bawb: Profiadau Personol 

26 Ionawr 2022, 10:00 – 12:00

Agenda

Gwyliwch Weithdy 2 yma

Crynodeb