Adnodd hunan astudio a phecynnau gwybodaeth Croeso i Bawb

Datblygwyd prosiect o’r enw Croeso i Bawb gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r prosiect yn cyflwyno’r Gymraeg a Chymru i bobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg.


Mae IAITH: y ganolfan cynllunio iaith wedi cydweithio gydag Optimwm i addasu’r cwrs blasu wyneb yn wyneb gwreiddiol a’i drosi yn adnodd hunan-astudio digidol sydd ar gael ar wefan dysgucymraeg.cymru. Mae’r adnodd ar gael yma:

Croeso i Bawb

Yn ogystal â’r cyrsiau hunan astudio digidol, crëwyd pecynnau sy’n cyflwyno gwybodaeth am Gymru a’r Gymraeg - Cyflwyno Cymru. Mae chwe uned yn y pecynnau yn cyflwyno gwybodaeth ynghylch Cymru ddoe a heddiw yn y meysydd canlynol:

  • Pobl a Lleoedd
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Celfyddydau yng Nghymru
  • Bwyd Cymreig
  • Straeon a chwedlau Cymru
  • Lleoliadau, gofodau a chwaraeon

Mae’r pecyn gwybodaeth ar gael mewn pum iaith ar ffurf modiwl hunan-astudio.

Cliciwch ar y dolenni i weld y pecynnau yn y pum iaith ar safle dysgucymraeg.cymru:

Wcreineg

Cantoneg

Arabeg Syria

Farsi

Pashto