Mae Cynllunwyr Iaith Cymru yn coleddu’r gwerthoedd craidd canlynol ac yn cydnabod:


  • bod yna werth cynhenid i ieithoedd a diwylliannau fel mynegiant penodol o’r profiad dynol;
  • bod yna werth mewn amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol;
  • bod angen arddel parch at hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigolion a grwpiau ar bob achlysur;
  • bod perthynas o rym yn bodoli rhwng grwpiau iaith a’i gilydd, yn economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol;
  • bod materion iaith ynghlwm â materion cydraddoldeb;
  • mai un o brif swyddogaethau cynllunio iaith yw ceisio gweithredu o blaid parhad a ffyniant ieithoedd a diwylliannau llai grymus.

Mae CIC yn cydnabod bod gwerth canolog i:

  • addysg, dysgu a datblygiad proffesiynol,
  • trafodaeth ddeallus ac amrywiaeth barn,
  • cynllunio a gweithredu ar sail gwybodaeth,

ac yn ymrwymo i hyrwyddo’r gwerthoedd hynny.