Ymestyn gofal a gwasanaethau dwyieithog i bobl sy'n byw gyda dementia

Pam nad yw siaradwyr Cymraeg sydd angen asesiad clinigol ar gyfer dementia yng Nghymru yn cael prawf yn yr iaith sydd fwyaf naturiol iddynt?


Er bod y profion Saesneg wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg, bydd ymchwil newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn sefydlu cadernid y profion pan gânt eu defnyddio yn Gymraeg. Y nod yw sicrhau byddai dau berson sydd â'r un graddau o nam gwybyddol yn cael cyfle i lwyddo yn yr iaith fyddant yn ei ddefnyddio yn naturiol. Mae'r ymchwil newydd yn cael ei lansio mewn gweminar Dementia a'r Gymraeg ar Ionawr 25ain a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, canolfan sy'n arwain y byd sy'n dod ag arbenigwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe ynghyd sy'n mynd i'r afael â chwestiynau allweddol mewn heneiddio a dementia.

Bydd y pum siaradwr ar y pwnc yn trafod yr ymchwil ddiweddaraf ar effaith iaith ar lesiant, profiadau unigol, polisi Cymraeg, a phrofion gwybyddol wedi'u cyfieithu ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae diddordeb gref yn y digwyddiad gan adlewyrchu'r gwerthfawrogiad cynyddol o bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r seminar ar-lein weld manylion y siaradwyr a chofrestru yma 

Roedd sicrhau bod fersiynau Cymraeg o'r profion dementia safonol yn cael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg yn un o brif argymhellion papur briffio ymchwil i Lywodraeth Cymru a ysgrifennwyd gan Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Ymgorfforwyd yr argymhelliad hwn yng Nghynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru, gydag IAITH: Canolfan Cynllunio Iaith Cymru bellach yn gyfrifol am sicrhau bod y fersiynau Cymraeg wedi'u profi gyda siaradwyr Cymraeg. Bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ar yr ymchwil ar y cyd â chlinigwyr ledled Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynnig Rhagweithiol. Mae'r Cynnig Rhagweithiol yn rhoi cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau i ofyn pa iaith fyddai fwyaf cyfforddus gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yna sicrhau y gellir gynnig cefnogaeth i ddefnyddio eu hiaith pan fydd pobl angen gofal a chymorth.

 

Meddai Dr Catrin Hedd Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Brifysgol:

"Rydyn ni'n gwybod y gall cyfathrebu ar lafar fod yn her i rai pobl sy'n byw gyda dementia ac mae'n hanfodol bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith gyda dementia i gyfathrebu yn yr iaith sy'n teimlo'n naturiol iddyn nhw. Nid mater o ddewis yw hyn ond angen clinigol a gall methiant gynyddu'r risg o ganlyniadau profion neu ofal amhriodol. Rydym yn hynod falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r gwaith hwn i sicrhau bydd gan glinigwyr hyder llawn yn y profion a gyfieithwyd.

Dywedodd Dr Kathryn Jones o IAITH:

“Mae IAITH yn falch iawn o fod yn cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor a rhanddeiliaid sector iechyd a gofal allweddol ar waith Dilysu Asesiadau Dementia yn Gymraeg ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys coladu gwybodaeth am yr adnoddau/graddfeydd asesu dementia sydd ar gael yn Gymraeg, sut maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a nodi'r adnodd(au) Cymraeg cadarnaf sydd wedi'u dilysu'n glinigol. Bydd Kathryn yn cyflwyno gorolwg o nod, dull ac amserlen y gwaith yn y gweminar Dementia a’r Iaith Gymraeg “

Meddai'r Athro Gill Windle, cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac Athro yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor:

"Mae'n gyffrous gweld cymaint o ymchwil i ddefnydd iaith yng nghyd-destun dementia a heneiddio. Mae'r iaith y gallwn ei defnyddio yn cael effaith ddwys ar ein lles, ac mae angen i ni ystyried hyn wrth gynllunio a darparu pob agwedd ar ofal i bobl hŷn neu bobl sy'n byw gyda dementia mewn cymdeithas ofalgar a ddwyieithog."

 

Gallwch gwylio recordiad o'r gweminar "Dementia a'r Iaith Gymraeg" yma

 

                                 

Dolenni defnyddiol

Golwg360 - “Lle mae’r gweithredu er mwyn gwella’r sefyllfa o ran dementia a’r Gymraeg?”

Cymru Fyw Dementia: 'Sefyllfa o ran y Gymraeg yn siomedig o hyd'

Golwg360 -  Dementia a'r iaith Gymraeg

Dros Frecwast - Ewch i 1:42 i glywed am yr angen am wasanaethau dementia yn Gymraeg