Comisiynwyd IAITH: y ganolfan cynllunio iaith gan Calon Tysul i wneud gwaith ymchwil ac i gynnig cefnogaeth wrth greu cwrs penodol ar gyfer hyfforddwyr ac athrawon nofio cyfrwng Cymraeg.


 Bwriad y prosiect oedd paratoi adnoddau pwrpasol er mwyn cynnal cwrs preswyl a fyddai’n cyflwyno gwybodaeth ac arweiniad ynghylch pwysigrwydd a gwerth cynnal gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Er mwyn gweithredu’r prosiect roedd angen:

  • gwneud gwaith ymchwil i fapio’r angen
  • cynnal cyfarfodydd gyda chyrff perthnasol er mwyn hyrwyddo gwaith y prosiect
  • darparu awgrymiadau ar gyfer cynnwys ymwybyddiaeth iaith/cadernid iaith o fewn y cwrs
  • cynhyrchu adnoddau dysgu digidol
  • mesur effaith ar y rhanddeiliaid a oedd wedi elwa o’r cynllun er mwyn adnabod y llwyddiannau a’r rhwystrau

Roedd ffocws y prosiect hwn ar baratoi pecyn hyfforddi peilot fyddai’n cefnogi hyfforddwyr ac athrawon nofio i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg o fewn eu gwersi nofio. Cynhaliwyd penwythnos preswyl peilot yn Llandysul ym mis Mawrth, 2023. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â  post@iaith.cymru