Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf bu IAITH yn cydweithio ar brosiect Erasmus + a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd o’r enw AN INNOVATIVE EDUCATIONAL METHODOLOGY FOR INCLUSION THROUGH MINORITY LANGUAGES. Cafodd y prosiect ei arwain gan  Acció Cultural del País Valencià a’r partneriaid eraill oedd ELEN (European Language Equality Network), Dublin City University a Consiglio Nazionale Delle Ricerche. Dyma ddolen i wefan y prosicet: http://innolang.eu/


Mae’r prosiect yma wedi datblygu dull addysgol arloesol er mwyn gwella cynhwysiad disgyblion o dramor, ffoaduriaid a disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Gan ganolbwyntio ar ddechrau’r cyfnod addysg uwchradd, mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo dysgu ieithoedd lleiafrifol a datblygu sgiliau ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol mewn modd holistaidd. Cewch weld y fethodoleg newydd yma: http://innolang.eu/wp-content/pdf/Guia-Innolang-download.pdf