Fel rhan o'r prosiect yma mae IAITH yn darparu hyfforddiant defnydd iaith sydd wedi ei dargedu at uwch reolwyr ysgolion, athrawon, gweithlu atodol ysgolion a swyddogion ieuenctid o gyrff amrywiol.
Nod yr hyfforddiant yw arfogi a galluogi’r mynychwyr i arwain sesiynau a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion drafod ac archwilio eu perthynas gyda’r iaith Gymraeg a’u canfyddiad ac agweddau tuag at yr iaith a’r defnydd y maent yn gwneud ohoni.
Nodwn yn ogystal mai bwriad yr hyfforddiant hwn yw arfogi’r gweithlu i:
- fynd i’r afael â meithrin perchnogaeth pobl ifanc o’r Gymraeg a’i pherthnasedd i’w bywydau bob dydd (Amcan 2 o’r Fframwaith Gyfunol); a
- gweithio tuag at yr amcan o arweinyddiaeth ysgol gyfan.
Mae'r hyfforddiant yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd gyda’r prosiect cefnogi arferion iaith yn y gorffennol. Bydd hefyd yn ei ddatblygu ymhellach:
- ar sail damcaniaethol a thystiolaeth ymchwil gadarn, ac
- yn unol â strategaethau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ac addysg.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect yma, cysylltwch â Siwan Tomos