Hyfforddi’n ddwyieithog
Dyddiad: | 19 April - 19 April |
Lleoliad: | Canolfan CGGC (WCVA) Caerdydd |
Hyfforddwr: | Siwan Tomos |
Tâl: | £155 + TAW / £125 + TAW i aelodau IAITH |
Amser: | 9:30 am - 16:00 pm |
Nod
Nod yr hyfforddiant yma yw codi hyder hyfforddwyr i ddefnyddio’r ddwy iaith wrth hyfforddi a’u galluogi i greu awyrgylch hyfforddi ddiogel sy’n caniatáu i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg gyfrannu yn eu dewis iaith.
Ar gyfer pwy?
- Hyfforddwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau hyfforddi’n ddwyieithog
- Hwyluswyr grwpiau/sesiynau
- Unigolion sydd yn cadeirio cyfarfodydd
- Unigolion o’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol
Cynnwys
Bydd hyfforddeion yn:
- Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
- Trafod arwyddocâd hwyluso’n ddwyieithog a’r dulliau o fynd ati i ddarparu sesiynau dwyieithog
- Derbyn gwybodaeth ar yr arfau sydd ar gael i gefnogi hyfforddwyr i weithio’n ddwyieithog.
- Adnabod heriau a gofidiau
- Edrych ar dechnegau a fydd yn caniatáu’r hyfforddwr i gynllunio sesiwn hyfforddi fywiog a chynhwysol.
- Adnabod a rhannu enghreifftiau o arfer dda
Deilliannau Dysgu
Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs yn caffael gwybodaeth a sgiliau i’w cefnogi i:
- Ddarparu sesiynau dwyieithog sy’n addas ar gyfer grwpiau cymysg o ran iaith
- Sefydlu awyrgylch ddiogel yn y sesiwn hyfforddi i unigolion gyfrannu yn eu dewis iaith
- Ddefnyddio arfau sy’n eu cefnogi i hwyluso sesiynau dwyieithog
Hyfforddwr
Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH. Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned. Siwan sy'n gyfrifol am brosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i lu o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at waith ymchwil a datblygu maes cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. siwan.tomos@iaith.eu