Uned ymchwil a pholisi iaith


Mae ein huned ymchwil a pholisi iaith arbenigol yn darparu tystiolaeth ymchwil a dadansoddiadau data ar gyfer ystod helaeth o gyrff  cyhoeddus ac academaidd yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. Mae ein gwasanaeth ymchwil wedi cyfrannu’n arwyddocaol i’r maes polisi a chynllunio iaith yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. 

Mae ein harbenigedd yn cynnwys:

  • Gwerthuso prosiectau a pholisïau
  • Arolygon barn a bodlonrwydd cwsmeriaid
  • Asesiadau effaith ieithyddol
  • Archwilio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a pholisïau
  • Casglu tystiolaeth ymchwil yn sail i ddatblygu polisi iaith llywodraethau, sefydliadau a grwpiau lleol
  • Prosiectau ymchwil cyfranogol gyda grwpiau cymunedol 
  • Newid ymddygiad

Ers 1993, rydym wedi magu arbenigedd mewn cynnal ymchwil gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc, mewn gweithleoedd, lleoliadau addysgol, cymunedau a chymdogaethau lleol. Rydym hefyd yn gyfarwydd â chynnal gwaith yn y sector iechyd a gofal, y maes addysg, y sector cyfiawnder a’r maes cynllunio.

Rydym hefyd yn cydweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru, y DG a thu hwnt ar brosiectau ymchwil academaidd yn y meysydd canlynol: cymdeithasoli dwyieithrwydd cynnar (trosglwyddo iaith), arferion iaith ddwyieithog ar lafar ac yn ysgrifenedig, addysg ddwyieithog, iaith ac economi, siaradwyr newydd o’r Gymraeg ac ieithoedd eraill yng nghyd-destun Ewrop amlieithog. 

Cyhoeddwn ffrwyth ein hymchwil mewn adroddiadau i gleientiaid a chyfnodolion a llyfrau academaidd. Cyflwynir ein gwaith mewn cynadleddau academaidd rhyngwladol ynghyd â seminarau a chynadleddau ein hunain.

Mae ein tîm o staff profiadol ac ymchwilwyr cysylltiol  yn ein galluogi i lunio dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol cadarn i gwrdd â phob math o brosiect ymchwil.

Am restr o enghreifftiau o’n prosiectau ymchwil diweddar cliciwch y cyswllt hwn

Cysylltwch â Buddug ac Osian i drafod: post@iaith.cymru