Roedd Llechi, Glo a Chefn Gwlad yn rhaglen dair blynedd a weithiodd gyda naw partner ledled Cymru.


Y naw partner oedd: Tir Dewi, DOVE, Tir Coed, Gofalwyr Credu, Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, Siop Griffiths, Partneriaeth Adfywio Ynys-y-bwl, Pobl a Gwaith: Cenhedlaeth Rhondda. Canolbwyntiodd y rhaglen ar y canlynol: 

  • gwaith a ddatblygodd a/neu a gefnogodd yr economi sylfaenol a lleol iawn; a
  • phrofi dull arweinyddiaeth gymunedol a oedd yn cynnwys partneriaid yn cyflogi aelod o'u cymuned am 12 mis i adeiladu gweithgarwch cymunedol tra hefyd yn datblygu eu sgiliau a'u profiad eu hunain – cyflogwyd 27 o arweinwyr cymunedol.

Bu IAITH yn cydweithio â’r partneriaid i adnabod y dysgu a gyflawnwyd ac effaith ehangach y rhaglen.

Adroddiad  IAITH Blwyddyn  1

Adroddiad IAITH Blwyddyn 2

Ffilm diwedd prosiect

Adroddiad Llechi, Glo a Chefn Gwlad

Ar 5ed Gorffennaf 2023 cynhelir seminar a noddir gan Heledd Fychan AS yn Adeilad y Pierhead Bae Caerdydd i rannu gwybodaeth am y prosiect. Cyhoeddodd partneriaid Llechi, Glo a Chefn Gwlad ddogfen 'Pa Tri pheth' sy’n amlinellu y tri pheth y gall y sector gyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Iechyd a Sefydliadau ac elusennau cymunedoli eu gwneud i gynorthwyo mentrau sy’n eiddo i’r gymuned i gadw a lluosi incwm a chyfoeth yn lleol.