Mae Prosiect Llwybrau at y Gymraeg yn codi ymwybyddiaeth ynghylch darpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog i oedolion a phlant mudol yng Nghymru. Y nod, yw gwella mynediad at y ddarpariaeth yma. Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at ffordd newydd, unigryw, cynhwysol a Chymraeg o fynd i’r afael ag addysg iaith ac integreiddio ieithyddol.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys dau drywydd.
Mae Trywydd 1 yn canolbwyntio ar weithgareddau cyfnewid gwybodaeth at dibenion datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr sy'n oedolion yn y sector addysg oedolion. Bydd y trywydd hwn yn cryfhau a hwyluso cyfnewid gwybodaeth a hyfforddiant rhwng ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a Dysgu Cymraeg, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, i wella’r ddarpariaeth WSOL (Cymraeg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Anelir i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ieithyddol sy’n bodoli o ran mynediad mudwyr at ddwy brif iaith Cymru. Y nod yw symud tuag at ddarpariaeth iaith sy’n cefnogi amlieithrwydd mudwyr ac sy’n grymuso mudwyr i sefydlu ffyrdd newydd o gymryd rhan a pherthyn yng Nghymru.
Mae Trywydd 2 yn canolbwyntio ar weithgareddau cyfnewid gwybodaeth i ddatblygu ymwybyddiaeth teuluoedd mudol o'r Gymraeg a’u mynediad at addysg statudol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd y trywydd hwn yn parhau ac yn cryfhau rhwydwaith newydd Addysg Gymraeg a Dwyieithog i Bawb/Welsh and Bilingual Education for All (AGDB/WBEA). Sefydlwyd y rhwydwaith gan Brifysgol Abertawe/IAITH yn ystod 2021-2022 gyda grant fach Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyda'r nod o weithio tuag at fynd i'r afael â’r heriau sydd i deuluoedd mudol wrth geisio cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd chwalu'r rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg/dwyieithog i fudwyr hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth amlieithog ac amlddiwylliannol yr ysgolion hyn wrth groesawu mudwyr o gefndiroedd amrywiol.