Cynllunio iaith corfforaethol


Beth yw ‘cynllunio iaith corfforaethol’?  Yng ngyd-destun y Gymraeg, rydym yn defnyddio’r term yma i gyfeirio at gynllunio ieithyddol o fewn sefydliadau.  Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â chynyddu defnydd y Gymraeg a dwyieithrwydd wrth ddarparu gwasanaethau ac mewn gweinyddiaeth fewnol. Yng Nghymru mae mwy na 550 o gyrff cyhoeddus, ynghyd â nifer fawr o gyrff gwirfoddol, eisoes yn gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg. O 2015 ymlaen bydd cyrff a ddaw o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn wynebu’r her o fabwysiadu a gweithredu Safonau Iaith Gymraeg. 

Fel y cyntaf i ddatblygu'r maes proffesiynol hwn mae profiad IAITH o ddarparu gwasanaethau cynllunio iaith corfforaethol heb ei ail. Mae prif sefydliadau cyhoeddus Cymru, gan Gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol amlwg, cyrff gofal iechyd a gofal cymdeithasol, Heddluoedd a chyrff eraill yn y sector gweinyddu cyfiawnder, Awdurdodau Tân ac amryw o gyrff eraill ymhlith ein cleientiaid. 

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol:

  • datblygu dulliau gweithredu a systemau a fydd yn helpu cyrff i gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg
  • hwyluso gweithrediad Cynlluniau Iaith Gymraeg ac arfer dwyieithog da
  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i reolwyr a staff
  • darparu hyfforddiant a chyngor ar faterion recriwtio a phenodi
  • Strategaethau Sgiliau Iaith
  • cynnal awdit sgiliau iaith 
  • prif-ffrydio'r Gymraeg
  • datblygu gweithleoedd dwyieithog
  • llunio canllawiau i staff a briffio staff
  • llunio strategaethau hyfforddiant
  • gofal cwsmer a'r Gymraeg
  • y Gymraeg a'r cydraddoldebau
  • sefydlu a chefnogi Swyddogion Iaith

Rydym hefyd yn datblygu a gweithredu nifer o brosiectau arloesol ar y cyd â'n cleientiaid, gan gynnig atebion dychmygus i anghenion penodol. Am restr enghreifftiol o weithgareddau cyfredol IAITH yn y maes hwn cliciwch y cyswllt hwn.

Bydd Dr Steve Eaves yn falch o drafod eich anghenion yng nghyswllt unrhyw agwedd o ddatblygu dwyieithrwydd corfforaethol. Rhowch alwad ar 01745 222 052  neu anfonwch neges   e-bost ato: steve.eaves@iaith.eu