Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu IAITH i wneud gwaith ymchwil i’r rhesymau pam nad yw rhieni plant 3-4 oed yn dewis manteisio ar ofal plant ffurfiol ac addysg feithrin cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar.


Nod yr ymchwil yw deall y rhesymau pam y mae rhieni yn dewis peidio â manteisio ar y gwasanaethau hyn a beth sy'n cymell rhieni i wneud dewisiadau ynghylch addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar. Rydym yn cynnal yr ymchwil mewn 10 ardal ar draws Cymru.

Cewch weld Hysbysiad Preifatrwydd y prosiect yma