Ymaelodi â'r Ganolfan


Croesawir sefydliadau ac unigolion sy'n cefnogi amcanion y Ganolfan i ymuno â ni er mwyn:

  • cadw mewn cyswllt â datblygiadau yn y maes cynllunio iaith,
  • cyfrannu i'r drafodaeth genedlaethol ar faterion iaith,
  • mynegi barn ar anghenion proffesiynol y maes,
  • datblygu syniadau ar gyfer prosiectau a mentrau newydd,
  • rhwydweithio â chyrff ac unigolion o ddiddordebau tebyg.

Aelodaeth Gorfforaethol

Buddiannau:

  • Penodi hyd at 3 pherson cyswllt i dderbyn gwybodaeth am weithgareddau'r Ganolfan.
  • Cyfle i rwydweithio â chyrff ac unigolion eraill â diddordeb mewn cynllunio iaith.
  • Cyfle i gyfrannu i'r drafodaeth ynglŷn a pholisi a chynllunio iaith mewn digwyddiadau neilltuol i aelodau. 
  • Cyfle i dderbyn cylchlythyr aelodau achlysurol.
  • Cyfle i gael copïau o'n cyhoeddiadau cyffredinol yn rhad ac am ddim.
  • Cyfle i dderbyn gwasanaethau'r Ganolfan ar raddfa ostyngol o 5%.
  • Un bleidlais yn y CCB.

Aelodaeth Unigol Lawn

Buddiannau:

  • Derbyn gwybodaeth am weithgareddau'r Ganolfan.
  • Cyfle i rwydweithio â chyrff ac unigolion eraill â diddordeb mewn cynllunio iaith.
  • Cyfle i gyfrannu i'r drafodaeth ynglŷn a pholisi a chynllunio iaith mewn digwyddiadau neilltuol i aelodau.
  • Cyfle i dderbyn cylchlythyr aelodau achlysurol.
  • Un bleidlais yn y CCB.

Aelodaeth Unigol ‘Cynllunwyr Iaith Cymru’

ar agor i broffesiynolion yn y maes

Buddiannau:

  • Derbyn gwybodaeth am weithgareddau'r Ganolfan.
  • Dim pleidlais yn y CCB.
  • Cyfle i gyfrannu i'r drafodaeth ynglŷn a pholisi a chynllunio iaith mewn digwyddiadau neilltuol i aelodau 'Cynllunwyr Iaith Cymru'.

Ffurflen aelodaeth

Os hoffech chi ymuno, llenwch y ffurflen isod. Wedyn, cewch eich trosglwyddo i safle we Paypal er mwyn talu eich tanysgrifiad ar lein, gan ddefnyddio cyfrif Paypal neu sawl math o garden credyd a debyd. Os hoffech chi dalu â siec neu drwy gael anfoneb, argraffwch y ffurflen gais hon a'i phostio.

Math o Aelodaeth: