Darperir cyrsiau amrywiol mewn agweddau o bolisi a chynllunio iaith. Darperir rhaglen o gyrsiau achlysurol yn ogystal â bwydlen o gyrsiau a ellid eu darparu i gleientiaid yn uniongyrchol.
Cyrsiau pwrpasol i chi:
Yn ogystal â darparu Rhaglen Hyfforddi, gall IAITH ddarparu y sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb neu rhithiol isod i gwrdd â’ch anghenion.
Ymwybyddiaeth Iaith (Cydymffurfio â’r Safonau)
Gallwn hefyd gynllunio hyfforddiant neu ddatblygu adnoddau hyfforddi sydd wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer eich anghenion chi ar unrhyw agwedd ar ddatblygu dwyieithrwydd a hyrwyddo'r Gymraeg.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu i gomisiynu sesiynau hyfforddiant gan IAITH, cysylltwch ag Osian Elias osian.elias@iaith.cymru i drafod ymhellach.
Hysbysiad preifatrwydd - holiadur i fynychwyr sesiynau hyfforddiant