Mwy na Geiriau


Dyddiad: 04 December - 04 December
Lleoliad: Llandarcy
Hyfforddwr: Elaine Davies
Tâl: £85 (+TAW), £75 (+TAW) i aelodau IAITH
Amser: 9:15 am - 12:30 pm

Gweithdy Hyfforddi

Mae'r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr yn y gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi cyfle i ddeall prif ofynion y Strategaeth ac ystyried sut i ddatblygu dulliau gweithredu addas. 

Nod yr hyfforddiant yw trafod arwyddocâd fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes gofal cymdeithasol gan ystyried:

Pam bod angen i chi ddatblygu'r gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n siarad Cymraeg

Beth y mae angen i chi ei wybod am y fframwaith strategol ac am gyd-destun ehangach y Gymraeg yng Nghymru heddiw

Sut y gallwch chi fynd ati i gynllunio gwasanaeth er mwyn gweithredu egwyddor y Cynnig Rhagweithiol

Cofrestru

Rhaglen

9.15

Cofrestru

9.30

Y Gymraeg yng Nghymru heddiw 

Cyflwyniad i Strategaeth Mwy na Geiriau
Profiad Defnyddwyr Gwasanaeth – y sylfaen dystiolaeth
Y Cynnig Rhagweithiol – beth mae hyn yn ei olygu i chi

  • Adnabod, datblygu a rhoi gwerth ar sgiliau dwyieithog
  • Cyfnewid arfer da
  • Creu cynllun gweithredu 

Crynhoi a gwerthuso

12.30

Ymadael