Recriwtio – Ystyried y Gymraeg
Dyddiad: | 18 January - 18 January |
Lleoliad: | Venue Cymru, Llandudno |
Hyfforddwr: | Dr Steve Eaves |
Tâl: | £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH |
Amser: | 9:00 am - 13:00 pm |
Cyflwyniad
Ddiwedd Medi 2015 gosododd Comisiynydd y Gymraeg Safonau Iaith Gymraeg ar 26 o sefydliadau yn nodi beth fydd disgwyl iddynt ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae maes Recriwtio a materion cysylltiedig yn faes allweddol bwysig i alluogi pob corff i ymateb yn effeithiol i her y Safonau.
Anelir yr hyfforddiant hwn at reolwyr a swyddogion ym maes adnoddau dynol / personél, a rheolwyr a staff eraill sy’n ymwneud ag agweddau ar y broses recriwtio a datblygu staff.
Nod yr hyfforddiant
Ymgyfarwyddo â goblygiadau cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar faterion recriwtio mewn pethynas â’r Gymraeg
Cynnwys y sesiwn
Ystyried a thrafod y themâu allweddol yng nghynghorion Comisiynydd y Gymraeg ar faterion recriwtio
- Cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus
- Cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog
- Polisïau ac arferion sefydlog adrannau adnoddau dynol
- Llunio Strategaeth Sgiliau Iaith
- Fframwaith Sgiliau Iaith
Cynhelir y sesiwn trwy gyfrwng y Saesneg.
Fe’i cynhelir trwy ddarparu cyflwyniad PowerPoint , cyfleoedd i drafod ac ymarferion grŵp.
Yr hyfforddwr
Dr Steve Eaves yw Cyfarwyddwr Cynllunio Iaith Corfforaethol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Bu’n gweithio ym maes polisi iaith a gwasanaethau iaith ers 35 mlynedd. Yn dilyn gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol mewn llywodraeth leol mae Steve yn un o uwch ymgynghorwyr IAITH ers 14 blynedd. Mae’n arbenigo mewn cynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus ar weithredu dwyieithrwydd. Mae hefyd yn hyfforddi ar amryw o faterion cysylltiedig, gan gynnwys ymwybyddiaeth iaith, recriwtio a strategaethau sgiliau iaith, a datblygiadau ym maes deddfwriaeth iaith a pholisi iaith. steve.eaves@iaith.eu