Ein gweledigaeth yw cynnal canolfan ragoriaeth mewn polisi a chynllunio iaith sy'n cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol eraill.
Amcanion y ganolfan yw:
- darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu arferion dwyieithog;
- cynnal ymchwil a phrosiectau datblygu ym maes polisi a chynllunio iaith;
- hyrwyddo gweithgareddau addysg a hyfforddiant proffesiynol yn y maes.
Sefydlwyd IAITH yn 1993 i gynnig cyngor proffesiynol er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg a datblygu arferion dwyieithog. Mae rôl, maint a dylanwad y cwmni wedi tyfu'n gyson ers hynny.
Mae ein cleientiaid yn cynnwys prif gyrff cyhoeddus Cymru a sefydliadau mewn cymunedau iaith eraill ym Mhrydain ac Ewrop.
Trefnir ein gweithgaredd ar sail:
- cynnig cyngor ac arweiniad i sefydliadau a chymunedau;
- gweithredu prosiectau ymchwil a datblygu blaengar;
- darparu addysg a hyfforddiant mewn cynllunio iaith;
- cynnal digwyddiadau ar gyfer y proffesiwn, a
- rheoli prosiectau ym maes y Gymraeg.