Taith IAITH


1993
  • Sefydlu IAITH Cyf. gyda’i swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan
  • Tîm staff cyntaf: Llinos Dafis, Siân Wyn Siencyn a Nest Gwilym
1994
  • Darparu cyngor arloesol ar ddwyieithrwydd i gyrff cyhoeddus yng ngorllewin Cymru
  • Dechrau cyhoeddi adnoddau addysgol i ACCAC
1995
  • Arbrofi gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
1996
  • Penodi Gareth Ioan yn Brif Weithredwr
1997
  • Symud swyddfa i Gastellnewydd Emlyn
  • Datblygu ein Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf i Gyngor Sir Caerfyrddin
1998
  • Diffinio hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a dechrau cynhyrchu adnoddau
1999
  • Dr Kathryn Jones yn ymuno â’r staff
  • Ein darlith flynyddol gyntaf, traddodwyd gan Emyr Llywelyn
  • Sefydlu Cyfiaith yn wasanaeth cyfieithu i IAITH
2000
  • Sefydlu swyddfa yn Llanelwy
  • Cyhoeddi Mentro Ymlaen, arolwg arloesol o’r mentrau iaith ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Creu’r strategaeth iaith sirol gyntaf i Gyngor Sir Gaerfyrddin
  • Sefydlu cynllun Estyn Llaw yn wasanaeth cefnogol i’r trydydd sector
2001
  • Dechrau gweithredu’r prosiect trosglwyddo iaith, Twf, ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Steve Eaves ac Elaine Davies yn ymuno â IAITH
2002
  • Dechrau darparu gwasanaethau monitro gweithrediad Cynlluniau Iaith Gymraeg
  • Dechrau darparu gwasanaethau ymgynghorol i Cymunedau yn Gyntaf
2003
  • Dechrau darparu gwasanaethau cynllunio iaith yn Iwerddon
  • Cynhyrchu’r pecyn Iechyd Da! ar ran GIG Cymru
2005
  • Dechrau hwyluso prosiectau Gweithleoedd Dwyieithog i Fwrdd yr Iaith Gymraeg
2006
  • Cyhoeddi’r adroddiad Rhwydweithiau Cymdeithasol a Defnydd Iaith Pobl Ifanc i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gyda Chanolfan Ymchwil Ewrop
2007
  • Sefydlu Cynllunwyr Iaith Cymru yn rhwydwaith i broffesiynolion yn y maes
  • Datblygu’r cynllun newid ymddygiad Ma’ Dy Gymraeg Di’n Grêt
  • Cyhoeddi’r adroddiad Creu Cymru Gwbl Ddwyieithog: cyfleoedd deddfu a gweithredu polisi yn gyfraniad swmpus i’r drafodaeth ar ddeddf iaith newydd
2008
  • Cynnal cynhadledd Y Gorchymyn Iaith a Hawl i’r Gymraeg yn Y Deml Heddwch, Caerdydd, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Gwilym Prys Davies
2009
  • Cofrestru IAITH Cyf. yn elusen
  • Dechrau darparu gwasanaethau cynllunio iaith yn yr Alban
2011
  • Adroddiad ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal gan IAITH yn bwydo’r strategaeth ‘Mwy na Geiriau’
  • Cynnal cynhadledd Sut mae dehongli’r Cyfrifiad? ar y cyd â Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
2012
  • Cyhoeddi Gweithredu’n Lleol, cyhoeddiad olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Sefydlu cwrs ôl-radd mewn Polisi a Chynllunio Iaith gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
2013
  • Dechrau gweithredu’r prosiect Tyfu gyda’r Gymraeg
  • Gweinyddu Y Gynhadledd Fawr ar ran Llywodraeth Cymru
2014
  • Cynorthwyo’r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu ei Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2012
  • Cynnal cynhadledd Iaith ac Economi ar y cyd â Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth