Hyfforddi’r Hyfforddwyr

Hafan Cymru, Caerfyrddin
10:00 am - 16:00 pm, 12 Tachwedd 2019


Hyfforddiant 3 diwrnod, 12fed a 13eg o Dachwedd a 5ed o Rhagfyr.

Nod yr hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hwn yw cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fedru darparu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae cyfle i ddiffinio'r maes a chadarnhau'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen. Mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth a pholisi; y Gymraeg a'r cydraddoldebau; hanes, demograffi a dwyieithrwydd. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau hyfforddi trwy ystyried sut mae oedolion yn dysgu; pa dechnegau y gellir eu defnyddio a sut mae cynllunio sesiwn hyfforddi fywiog.

Anelir y cwrs at bobl sy'n awyddus i ddysgu am faes ymwybyddiaeth iaith ac sydd naill ai'n hyfforddi yn rhan o'u gwaith bob dydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Mae'n addas ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Cofrestrwch yma