Mwy Na Geiriau
Rhithiol
9:30 am - 12:30 pm, 01 Rhagfyr 2023
Codi ymwybyddiaeth am Mwy Na Geiriau a phwysigrwydd y Cynnig Rhagweithiol ac amlygu sut y gall gweithio’n ddwyieithog wella profiad yr unigolion a’r teuluoedd sy’n derbyn cefnogaeth.
Cynnwys yr hyfforddiant -
- Trosolwg bras o hanes/polisi/deddfwriaeth a fframweithiau'r iaith Gymraeg
- Crynhoi Fframwaith Strategol Mwy Na Geiriau a'r Cynnig Rhagweithiol
- Adnabod rolau a chyfrifoldebau unigolion sy’n gweithio yn y sector i sicrhau bod y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei roi ar waith
- Trafod yr effaith y gall gweithio'n ddwyieithog a defnyddio’r Gymraeg ei chael ar unigolion a theuluoedd sy’n derbyn gofal
- Dangos sut y gellir cyflwyno’r Gymraeg a diwylliant Cymreig mewn gwaith bob dydd wrth asesu neu gefnogi pobl yn y sector gofal cymdeithasol
- Amlinellu'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi pobl i ddysgu Cymraeg
Ffi: £110+TAW
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams , Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.