Newid Ymddygiad a’r Gymraeg – ble nesa?
Sefydliad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth
9:30 am - 13:00 pm, 10 Medi 2015
Yn dilyn seminar lwyddiannus llynedd, dyma gyfle i ddatblygu’r drafodaeth am yr her o ddylanwadu ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg a dysgu gwersi pellach o’r Gwyddorau Ymddygiadol.
Bydd y gweithdy yma’n gyfle i bawb sy’n gweithio yn y maes iaith i:
- fod yn ymwybodol o safbwynt gyfredol Llywodraeth Cymru ar ‘newid ymddygiad’ a’r Gymraeg;
- rhannu’r heriau o ddylanwadu ar ddefnydd o’r Gymraeg yn y cartref, y gweithle, mewn ysgolion, yn y gymuned ayyb;
- ystyried dylanwad Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith, a
- dysgu am egwyddorion a damcaniaethau o’r Gwyddorau Ymddygiadol.
Cyfranwyr gwadd:
Bethan Webb (Is-adran y Gymraeg: Llywodraeth Cymru)
Owain Glenister (Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot)
Debbie Jones (Hunaniaith,Cyngor Gwynedd)
Dr Steve Eaves (IAITH: y ganolfan cynllunio iaith)
Yr Athro Rhys Jones (Prifysgol Aberystwyth)
Cost (yn cynnwys paned):
£50 + TAW
Aelodau llawn IAITH: £40 + TAW
Ffurflen gofrestru
Cofrestrwch yma erbyn dydd Gwener, 4ydd Medi, os gwelwch yn dda