Beth yw Cynllun Estyn Llaw?
Sefydlwyd Cynllun Estyn Llaw yn 2000 a'r nod yw i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i fudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, ac i annog gwirfoddoli ymhlith siaradwyr Cymraeg. Mae Estyn Llaw yn gweithio gyda mudiadau bach a mawr ymhob cwr o Gymru. Mae’n cynnig gwasanaethau hyfforddiant a datblygu amrywiol i’r 3ydd sector er mwyn galluogi darparwyr gwasanaethau i allu gwneud hynny yn newis iaith y defnyddiwr.
Erbyn hyn mae mudiadau ymhob cwr o Gymru yn gweld y manteision o fedru cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn unol â’r pwyslais sydd gan y sector ar gydraddoldeb a gweithredu'n gynhwysol, maent yn gweithredu yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol addas.
IAITH - y ganolfan cynllunio iaith sy'n gweinyddu'r cynllun o'r pencadlys yng Nghastell Newydd Emlyn.