Mae IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn rheoli prosiectau, bach a mawr, i nifer o gyrff cyhoeddus yn y maes polisi a chynllunio iaith.
Mae ein tîm staff yn hynod brofiadol yn sefydlu, datblygu a gweithredu prosiectau arloesol ar ran Llywodraeth Cymru, cynghorau sir a chyrff cyhoeddus amrywiol.
Ond nid ymateb i anghenion sefydliadau eraill yn unig mae IAITH yn ei wneud. Rydym bob amser yn effro i gyfleoedd i ddatblygu prosiectau newydd ein hunain i ateb anghenion y maes polisi a chynllunio iaith.
Prif brosiectau tymor hir cyfredol y cwmni yw:
Trydydd sector
- Estyn Llaw
- Lleisiau Lleol Conwy
Cefnogi’r proffesiwn
- Cynllunwyr Iaith Cymru
Addysg
- Prosiect Cynyddu Dilyniant i Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Iaith+, Gwirvol/Urdd Gobaith Cymru