Dros y blynyddoedd, mae'r Ganolfan wedi datblygu cryn brofiad ac arbenigedd yn y meysydd canlynol. Os hoffech gomisiynu'r Ganolfan i ddarparu un o'r cyrsiau isod, cysylltwch â Bethan Williams bethan.williams@iaith.cymru i drafod ymhellach.
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol
- Cyflwyniad i'r maes Polisi a Chynllunio Iaith
Cynllunio Iaith a'r Sefydliad a Gweithredu'r Safonau Iaith
- Rheoli Adnoddau Dynol a'r Gymraeg – recriwtio, penodi, anwytho, cefnogi
- Rheoli yn Gymraeg: codi hyder rheolwyr Cymraeg yn eu sgiliau iaith
- Caffael a'r Gymraeg: grantiau a chytundebau 3ydd parti
- Iaith, Gofal ac Urddas - Gweithdai 'Mwy na Geiriau' (Gofal a Iechyd)
- Gweithdai ar gyfer cefnogi sgiliau iaith yn y gweithle
- Cadeirio’n ddwyieithog / Cynnal digwyddiadau yn ddwyieithog
- Gweithio gyda Chyfieithwyr
- Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu
- Creu Strategaeth Sgiliau Iaith
- Hunaniaeth Gorfforaethol
- Datblygu gweithlu dwyieithog
- Newid arferion iaith yn y gweithle
- Hyfforddiant Gofal Cwsmer
- Cynllunio iaith a rheoli newid yn y gweithle
- Codi hyder gofal claf
- Cyrsiau codi hyder
- Hyfforddiant Cynnig Rhagweithiol
- Gweithleoedd Cymraeg a Dwyieithog
- Cynllun mentora unigol
Ymwybyddiaeth Iaith
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith: gweithdy diwrnod neu sesiwn hanner diwrnod
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi'r Hyfforddwyr (cwrs 3 diwrnod)
- Ymwybyddiaeth iaith a chwrteisi ieithyddol sylfaenol
- Ymwybyddiaeth iaith a gloywi iaith
Datblygu Cymunedol
- Gweithredu'n lleol: hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
- Hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith teuluoedd
- Agor Dau Ddrws: datblygu gwaith ieuenctid dwyieithog
- Datblygu dwyieithrwydd yn y trydydd sector
- Ymgysylltu â chymunedau
Amrywiol
- Gloywi Iaith
- Cyflwyno'r Gymraeg a Chwrteisi Ieithyddol Sylfaenol
- Cymraeg bob dydd
- Technoleg a'r Gymraeg
- Datblygu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Yn ychwanegol at y cyrsiau uchod gall IAITH gynllunio hyfforddiant neu ddatblygu adnoddau hyfforddi wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer eich anghenion chi ar unrhyw agwedd ar ddatblygu dwyieithrwydd a hyrwyddo'r Gymraeg.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams , Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.