Cadeirio’n Ddwyieithog a Chynnal Digwyddiadau Dwyieithog
Dyddiad: | 19 Tachwedd - 19 Tachwedd |
Lleoliad: | Rhithiol |
Hyfforddwr: | Bethan Williams |
Tâl: | £110 + TAW |
Amser: | 9:30 am - 12:30 pm |
Arweiniad ar gadeirio cyfarfodydd ac / neu cynnal digwyddiadau yn ddwyieithog, myfyrio ar arferion iaith sy’n gynhwysol / cydymffurfio â safonau’r Gymraeg, canllawiau arfer da, datblygu geirfa ac ymadroddion, ymarfer trwy chwarae rôl.
Cynnwys y sesiwn (2.5 awr)
Rhan 1: Pam cynnig gwasanaeth dwyieithog wrth gynnal digwyddiadau a chadeirio cyfarfodydd?
-
Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
-
Trafod yr hyn rydym yn ei ystyried i fod yn ddigwyddiad / cyfarfod
-
Diffinio “dwyieithog”
-
Myfyrio ar arferion iaith sy’n gynhwysol
Rhan 2: Sut y mae mynd ati i gynllunio a darparu yn ddwyieithog?
-
Ystyried y broses gyfan (o’r cynllunio i gynnal digwyddiad dwyieithog)
-
Rhoi sylw i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol
-
Cyfieithu ar y pryd ac offer
-
Rhannu egwyddorion cadeirio dwyieithog effeithiol
Rhan 3: Rhwystrau a heriau
-
Astudiaeth achos
-
Problemau cyffredin a sut i’w datrys
-
Adnabod y gwahanol rolau wrth annog mwy o Gymraeg (Cadeirydd / Trefnydd / Mynychwr)
Rhan 4: Rhoi’r cysyniadau ar waith
-
Beth allaf i ei wneud? Rôl i bawb o fewn y sefydliad
-
Datblygu geirfa ac ymadroddion dwyieithog ar gyfer cyfarfodydd
-
Canllawiau arfer da
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams , Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.