Caffael a’r Gymraeg – cytundebau a grantiau
Dyddiad: | 25 Ionawr - 25 Ionawr |
Lleoliad: | Venue Cymru, Llandudno |
Hyfforddwr: | Dr Steve Eaves |
Tâl: | £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH |
Amser: | 9:00 am - 13:00 pm |
Cyflwyniad
Ddiwedd Medi 2015 gosododd Comisiynydd y Gymraeg Safonau Iaith Gymraeg ar 26 o sefydliadau yn nodi beth fydd disgwyl iddynt ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Gosodir Safonau ar amryw o gyrff eraill yn ystod 2016 a 2017.
Mae maes caffael yn faes allweddol bwysig i alluogi pob corff i ymateb yn effeithiol i her y Safonau, a rhaid sicrhau gweithdrefnau effeithiol priodol ar gyfer gosod cytundebau a dyrannu grantiau.
Nod
Nod yr hyfforddiant hwn yw esbonio prif oblygiadau’r Safonau parthed cytundebau a grantiau, a rhannu gwybodaeth am arfer da yn y maes.
Ar gyfer pwy?
Anelir yr hyfforddiant hwn at swyddogion mewn cyrff cyhoeddus a chyrff trydydd sector sy’n ymwneud â rheoli, gosod a monitro cytundebau a dyfarniadau grant.
Cynnwys
Bydd hyfforddeion yn:
- Archwilio gofynion y Safonau perthnasol sy’n ymdrin â chytundebau a grantiau
- Ystyried pa drefniadau cytundebol y mae angen gosod yn eu lle i ymateb yn briodol i’r gofynion
- Ystyried y trefniadau y mae angen gosod yn eu lle ar gyfer monitro gweithrediad cytundebau a grantiau
- Ystyried pa elfennau o weinyddiad cytundebau a grantiau y mae angen eu cofnodi er mwyn cydymffurfio â’r Safonau Cofnodi.
Deilliannau dysgu
Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth am
- ofynion y Safonau yng nghyswllt cytundebau a grantiau
- y trefniadau a’r gweithdrefnau y mae angen gosod yn eu lle er mwyn cynllunio, rheoli a monitro cytundebau a grantiau yn unol â’r Safonau
- arferion da yn y maes.
Cynhelir y sesiwn trwy gyfrwng y Saesneg.
Fe’i cynhelir trwy ddarparu cyflwyniad PowerPoint , cyfleoedd i drafod ac ymarferion grŵp.
Yr hyfforddwr
Dr Steve Eaves yw Cyfarwyddwr Cynllunio Iaith Corfforaethol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Bu’n gweithio ym maes polisi iaith a gwasanaethau iaith ers 35 mlynedd. Yn dilyn gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol mewn llywodraeth leol mae Steve yn un o uwch ymgynghorwyr IAITH ers 14 blynedd. Mae’n arbenigo mewn cynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus ar weithredu dwyieithrwydd. Mae hefyd yn hyfforddi ar amryw o faterion cysylltiedig, gan gynnwys ymwybyddiaeth iaith, recriwtio a strategaethau sgiliau iaith, a datblygiadau ym maes deddfwriaeth iaith a pholisi iaith. steve.eaves@iaith.eu