Defnyddio’r Gymraeg wrth recriwtio a phenodi staff
| Dyddiad: | 14 Mai - 14 Mai |
| Lleoliad: | Rhithiol |
| Hyfforddwr: | Iolo Jones |
| Tâl: | £110 + TAW |
| Amser: | 9:30 am - 12:30 pm |
Gweithdy arfer da sy’n cynnig arweiniad (yn unol â chanllawiau’r Comisiynydd) wrth ddynodi gofynion iaith swyddi, y broses recriwtio, recriwtio staff gyda sgiliau iaith Gymraeg, asesu sgiliau iaith ymgeiswyr, trefniadau ar gyfer hyfforddi, cefnogi ac arfarnu datblygiad sgiliau iaith staff, ymateb i heriau/ cwynion.
