Mae Cynllunwyr Iaith Cymru yn coleddu’r gwerthoedd craidd canlynol ac yn cydnabod:
- bod yna werth cynhenid i ieithoedd a diwylliannau fel mynegiant penodol o’r profiad dynol;
- bod yna werth mewn amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol;
- bod angen arddel parch at hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigolion a grwpiau ar bob achlysur;
- bod perthynas o rym yn bodoli rhwng grwpiau iaith a’i gilydd, yn economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol;
- bod materion iaith ynghlwm â materion cydraddoldeb;
- mai un o brif swyddogaethau cynllunio iaith yw ceisio gweithredu o blaid parhad a ffyniant ieithoedd a diwylliannau llai grymus.
Mae CIC yn cydnabod bod gwerth canolog i:
- addysg, dysgu a datblygiad proffesiynol,
- trafodaeth ddeallus ac amrywiaeth barn,
- cynllunio a gweithredu ar sail gwybodaeth,
ac yn ymrwymo i hyrwyddo’r gwerthoedd hynny.