Sut mae Dehongli’r Cyfrifiad?


Dyddiad ac Amser: 9.45a.m. - 1.00p.m., Dydd Gwener ,14 Rhagfyr 2012.

Mae disgwyl i benawdau cyntaf y Cyfrifiad gael eu cyhoeddi ar 11 Rhagfyr 2012.

Sut mae gwneud y defnydd gorau o'r data? Beth mae'r ystadegau craidd yn ei ddweud wrthym? Beth na allant eu dweud? Sut mae dysgu gwersi ar gyfer ein gwaith fel cynllunwyr iaith? Sut mae mynd dan groen y penawdau.

Bydd arbenigwyr yn cynnig tri phersbectif ar sut i gael y gorau o'r Cyfrifiad – o ran daearyddiaeth, cymdeithaseg iaith a gwleidyddiaeth. Bydd cyfle i gnoi cil ar y cyfraniadau a thrafod sut orau i ymagweddu at y data fel cynllunwyr iaith dros y cyfnod nesaf.

Cyfranwyr:

  • Yr Athro Rhys Jones, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Elin Royles, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Kathryn Jones, IAITH: y ganolfan cynllunio iaith
  • Dr Huw Lewis, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Jeremy Evas, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • ac eraill

Trafodion

Cyflwyniad Gareth Ioan

Cyflwyniad Rhys Jones

Cyflwyniad Elin Royles