Mae Prosiect Llwybrau at y Gymraeg yn codi ymwybyddiaeth ynghylch darpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog i oedolion a phlant mudol yng Nghymru. Y nod, yw gwella mynediad at y ddarpariaeth yma. Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at ffordd newydd, unigryw, cynhwysol a Chymraeg o fynd i’r afael ag addysg iaith ac integreiddio ieithyddol.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys dau drywydd.
Mae Trywydd 1 yn canolbwyntio ar weithgareddau cyfnewid gwybodaeth at dibenion datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr sy'n oedolion yn y sector addysg oedolion. Bydd y trywydd hwn yn cryfhau a hwyluso cyfnewid gwybodaeth a hyfforddiant rhwng ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a Dysgu Cymraeg, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, i wella’r ddarpariaeth WSOL (Cymraeg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Anelir i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ieithyddol sy’n bodoli o ran mynediad mudwyr at ddwy brif iaith Cymru. Y nod yw symud tuag at ddarpariaeth iaith sy’n cefnogi amlieithrwydd mudwyr ac sy’n grymuso mudwyr i sefydlu ffyrdd newydd o gymryd rhan a pherthyn yng Nghymru.
Mae Trywydd 2 yn canolbwyntio ar weithgareddau cyfnewid gwybodaeth i ddatblygu ymwybyddiaeth teuluoedd mudol o'r Gymraeg a’u mynediad at addysg statudol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd y trywydd hwn yn parhau ac yn cryfhau rhwydwaith newydd Addysg Gymraeg a Dwyieithog i Bawb/Welsh and Bilingual Education for All (AGDB/WBEA). Sefydlwyd y rhwydwaith gan Brifysgol Abertawe/IAITH yn ystod 2021-2022 gyda grant fach Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyda'r nod o weithio tuag at fynd i'r afael â’r heriau sydd i deuluoedd mudol wrth geisio cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd chwalu'r rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg/dwyieithog i fudwyr hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth amlieithog ac amlddiwylliannol yr ysgolion hyn wrth groesawu mudwyr o gefndiroedd amrywiol.
Gwyliwch ein fideo:
Ffoaduriaid ac Addysg Gymraeg: Llwybrau at yr iaith i deuluoedd
Yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, cynhaliodd IAITH banel i drafod beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a beth arall sydd angen ei wneud i gefnogi teuluoedd ffoaduriaid i gael mynediad at addysg Gymraeg i’w plant. Roedd y sesiwn yn un o ddigwyddiadau prosiect Llwybrau at y Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr rhyngwladol.
Aelodau’r panel:
Joseph Gnagbo, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Kaveh Karimi, Y Groes Goch
Ceren Roberts, Urdd Gobaith Cymru
Erica Williams, Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
Rhys Glyn, Cyngor Gwynedd
Nesta Davies, Cyngor Sir Ynys Môn
Eira Owen, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwennan Higham, Prifysgol Abertawe
Cafodd y drafodaeth ei llywio gan Kathryn Jones, IAITH.
Gwyliwch y sesiwn yn llawn a'r eitem a ddarlledwyd ar Newyddion S4C.