Arbenigwyr pwnc - Y diwydiannau creadigol
08 Mehefin 2023
Rydym yn chwilio am arbenigwyr pwnc ym meysydd:
- Celf a dylunio
- Cerddoriaeth
- Drama
- Y cyfryngau creadigol
- Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol
- Llwybrau dilyniant/llwybrau gyrfa o fewn y maes a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru.
Y gwaith: Cyfrannau at greu cynnwys pecynnau e-ddysgu ar gyfer meysydd o fewn y Diwydiannau Creadigol i ddysgwyr sydd yn dilyn cyrsiau addysg ar Lefelau 2 a 3. Bydd y pecynnau yn canolbwyntio ar waith artistiaid blaenllaw.
Disgrifiad Swydd: Arbenigwyr Pwnc - Y diwydiannau creadigol
Lleoliad: Gweithio o adref
Oriau: 5-7 diwrnod o waith rhwng Mehefin a Medi 2023
Ffi i’w drafod gyda ymgeiswyr llwyddiannus
Am ragor o wybodaeth/ i drafod ymhellach cysylltwch gyda Buddug.Hughes@iaith.cymru
Anfonwch CV at post@iaith.cymru erbyn 16 Mehefin 2023