Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu
07 Hydref 2021
25 Tachwedd, 10:00 – 1:00
Sut gall Gynghorau Cymuned a Thref gyfrannu i Lesiant y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn rhan o'r gwead cymdeithasol a diwylliannol ym mhob tref a chymuned yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at eu hymdeimlad unigryw eu hunain o le a thraddodiadau. Mae'r Digwyddiad Rhwydwaith hwn wedi'i anelu at gynghorau tref a chymuned sy'n cymryd camau i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg eu hunain, cefnogi’r defnydd o'r Gymraeg yn eu cymunedau, ac yn ystyried neu’n cymryd rhan mewn creu lleoedd/cynllunio.
Bydd y gweminar yn rhoi trosolwg o gyd-destun polisi cynllunio'r Gymraeg a bydd yn cyflwyno astudiaethau achos ledled Cymru lle mae gwaith datblygu cymunedol a phenderfyniadau cynllunio wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, mewn lleoliadau gwledig a threfol. Bydd y digwyddiad hefyd yn canolbwyntio ar gyfraniad cynllunio i'r Nod Llesiant i greu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a sut y mae'n rhaid i gynllunio sicrhau bod yr amodau sy'n hanfodol i’r iaith Gymraeg cael eu hystyried. Bydd y cyflwyniad yn rhoi enghreifftiau o ddefnyddio amodau cynllunio i liniaru a mwyafu effaith cynnig ar ffyniant y Gymraeg. Yn olaf, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael iddynt gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg a gwybodaeth am y Gymraeg yn eu hardaloedd a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at yr agwedd hon ar Greu Lleoedd.
Digwyddiad Rhwydwaith ar y cyd yw hwn a drefnir gan Cymorth Cynllunio Cymru ac IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith. Bydd swyddogion o bob sefydliad yn cyflwyno. Rydym hefyd yn ffodus i groesawu siaradwyr o bob rhan o Gymru sy'n ymgyrchwyr ar lefel gymunedol a chynllunwyr iaith a gofodol a fydd yn darparu astudiaethau achos o'u gwaith.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?
• Cynghorau Cymuned a Thref
• Swyddogion a Chynghorwyr Awdurdodau Cynllunio Lleol
• Datblygwyr / asiantwyr
Faint?
Cynrychiolydd £40
Gwirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru Am Ddim
Gostyngiad o 10% os ydych chi'n prynu 4 tocyn neu fwy.
Cofrestrwch yma
** Os byddai'n well gennych anfoneb a thalu gyda siec / BACS, e-bostiwch kay@planningaidwales.org.uk neu ar 02920 625009