Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg

24 Hydref 2018

Mae Misneachd wedi cyhoeddi 'Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg' mewn ymateb i'r Cynllun Gaeleg Cenedlaethol swyddogol a gafodd ei lansio’n gynharach eleni.


Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg

Mae Misneachd (sy'n golygu 'dewrder' neu 'hyder') yn grŵp ymgyrchu gwirfoddol a sefydlwyd yn 2016 gyda’r bwriad o bwyso am gefnogaeth lawer iawn cryfach i’r iaith Gaeleg. Gydag aelodaeth ar draws yr Alban, mae canghennau gweithredol y mudiad wedi eu lleoli yng Nghaeredin a Glasgow. Ysgrifennwyd y Plana Radaigeach airson na Gàidhhlig (Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg) mewn ymateb i’r Cynllun Gaeleg Cenedlaethol swyddogol a gafodd ei lansio’n gynharach eleni. Bwriad y cynllun yw tynnu sylw at sefyllfa hynod fregus yr iaith Gaeleg yn ei chymunedau traddodiadol - mater y mae’r grŵp yn teimlo nad yw’n cael sylw teilwng mewn polisi swyddogol a’r disgwrs ehangach am yr iaith.

https://drive.google.com/file/d/1uvigW-dfunhxBB5mHqzb5rFCMfQpYaVS/view