IAITH yn mynychu Cynulliad Cyffredinol ELEN

02 Rhagfyr 2021

Llongyfarchiadau i Elin Haf Gruffydd-Jones ar gael ei hethol yn Lywydd ELEN. Roedd IAITH yn falch o’r cyfle i fynychu Cynulliad Cyffredinol ELEN y Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithyddol Ewropeaidd yn Santiago de Compostela, Galiza ar 12 & 13 Tachwedd. 


IAITH yn mynychu Cynulliad Cyffredinol ELEN

Ymhlith pynciau trafod y rhwydwaith oedd bod ELEN yn galw am ddiddymu cyfraith amlieithrwydd 2010; cydraddoldeb i Galician, Basgeg a Catalaneg mewn cyfraith glyweledol newydd; bod addysg cyfrwng Galisaidd yn cael ei darparu ar bob lefel o addysg; yn nodi methiant cyffredinol yr UE i ddiogelu ieithoedd tiriogaethol a hawliau siaradwyr; galw am gyflwyno deddfwriaeth Deddf yr Iaith Wyddeleg yn San Steffan; bod Degawd Rhyngwladol Ieithoedd  Brodorol i gynnwys ieithoedd tiriogaethol Ewropeaidd ac apelio ar y Cenhedloedd Unedig dros geryddu Cyfraith Molac gan Lywodraeth Ffrainc.

Cewch rhagor o fanylion am y materion hyn yn adroddiad y cyfarfod: Adroddiad Cyfarfod ac yn y fideo byr yma: https://twitter.com/amesanl/status/1459604477745369089 neu https://www.youtube.com/watch?v=dwPnogtNDMY