IAITH yn yr Eisteddfod

01 Awst 2023

Ffoaduriaid ac Addysg Gymraeg: Llwybrau at yr iaith i deuluoedd 

 

Yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, cynhaliodd IAITH banel i drafod beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a beth arall sydd angen ei wneud i gefnogi teuluoedd ffoaduriaid i gael mynediad at addysg Gymraeg i’w plant. Roedd y sesiwn yn un o ddigwyddiadau prosiect Llwybrau at y Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr rhyngwladol.

 

Gwyliwch y sesiwn llawn a’r eitem a ddarlledwyd ar Newyddion S4C.


IAITH yn yr Eisteddfod

Mae’r sesiwn  hwn yn un o ddigwyddiadau prosiect Llwybrau at y Gymraeg ar gyfer mewnfudwyr rhyngwladol – prosiect sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch darpariaeth addysg Gymraeg i oedolion a phlant mudol yng Nghymru, yn ogystal â gwella mynediad at y ddarpariaeth hon. Daw hyn ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru, drwy eu strategaeth  uchelgeisiol 'Cenedl Noddfa,'  yn edrych o’r newydd ar y ffordd y mae  mudwyr rhyngwladol yn cael eu croesawu. Ar y naill law, mae adolygiad diweddar o bolisi ESOL ar gyfer Cymru yn ystyried y sgôp i ymgorffori'r Gymraeg ac amlieithrwydd mewn dosbarthiadau ESOL ar draws Cymru. Ar y llaw arall, bu Urdd  Gobaith Cymru yn rhan o gynllun arloesol i groesawu dros 100 o ffoaduriaid Affganaidd trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan herio rhagdybiaethau am integreiddio uniaith. Yng ngeiriau swyddog Llywodraeth Cymru, John Davies; "mae'n ddull arloesol o ailsefydlu ffoaduriaid ac mae gweld plant sy'n ffoaduriaid yn canu yn yr iaith Gymraeg cyn dysgu Saesneg yn rhywbeth nad ydym wedi gallu ei gyflawni o'r blaen" (Urdd 2022). Mae'r prosiect hwn felly'n ymateb yn uniongyrchol i'r datblygiadau diweddaraf hyn, a'i nod yw cyfrannu at ffordd newydd, unigryw, cynhwysol a Chymraeg o fynd i’r afael ag addysg iaith ac integreiddio ieithyddol.