Ôl-fateroliaeth ac adfywio iaith: ychydig sylwadau am y Wyddeleg a rhai o’r ieithoedd Celtaidd eraill

05 Hydref 2023

18fed Hydref 2023 4:00yp

Canolfan Cynadledda Medrus, Prifysgol Aberystwyth / Rhithiol

Dr Ben Ó Ceallaigh

Mewn cyfnod pan mae argyfwng costau byw’n achosi cymaint o ddioddefaint i bobl, a phan mae cymaint o argyfyngau eraill yn ein hwynebu ni, pa mor realistig ydy meddwl y bydd nifer fawr o bobl yn gallu ffeindio’r adnoddau seicolegol neu faterol i ddysgu neu boeni am ieithoedd lleiafrifol?


Ôl-fateroliaeth ac adfywio iaith: ychydig sylwadau am y Wyddeleg a rhai o’r ieithoedd Celtaidd eraill

Yn y sgwrs hon, bydd Ben yn defnyddio data o Iwerddon a’r gwledydd Celtaidd eraill a’r cysyniad o “ôl-fateroliaeth” i ddadlau bod y tlodi ac ansicrwydd economaidd mae neo-ryddfrydiaeth yn ei greu yn golygu bod gyda phobl problemau mwy dybryd na dyfodol ieithoedd lleiafrifol, a, felly, bod newid sylfaenol yn y system economaidd yn angenrheidiol i adfywio ein hieithoedd. 

Cofrestrwch i fynychu wyneb-yn-wyneb / rhithiol