Yn eisiau - Gweithwyr Llawrydd
07 Hydref 2015
Mae IAITH yn chwilio am bartneriaid llawrydd i’n cynorthwyo i ymgymryd â phrosiectau achlysurol.
Oes gennych chi brofiad o weithio ym maes polisi a chynllunio iaith?
Oes gennych chi sgiliau y gallech chi eu cymhwyso i’r maes?
Carech chi ymuno â thîm IAITH?
Mae IAITH yn chwilio am bartneriaid llawrydd i’n cynorthwyo i ymgymryd â phrosiectau achlysurol. Rydym yn awyddus i glywed gan:
- Hyfforddwyr ymwybyddiaeth iaith
- Ymchwilwyr maes
- Ystadegwyr
- Gweithwyr prosiect/maes
Os carech chi gael eich ystyried ar gyfer rhestr partneriaid llawrydd IAITH, anfonwch eich CV at sylw’r Prif Weithredwr at post@iaith.eu gan nodi eich diddordeb.
Yng nghyswllt gwaith yng Nghymru, mae’n ofynnol bod ein cydweithwyr yn medru gweithio yn Gymraeg a Saesneg i safon broffesiynol.