Yr Iaith Gymraeg:cynigion ar gyfer maniffestos pleidiau gwleidyddol Cymru

13 Hydref 2020

Ym mis Mai 2021 cynhelir etholiadau ar gyfer Senedd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod fframwaith polisi uchelgeisiol yng nghyswllt y Gymraeg gyda’i dogfen Cymraeg 2050 (Llywodraeth Cymru: 2017). Mae’r ddogfen wedi derbyn cefnogaeth gyffredinol gan drwch o Aelodau Senedd Cymru o bob plaid. Er hynny, a’r ewyllys da sydd i’r Gymraeg ar draws Cymru, mae’r Gymraeg yn parhau i wynebu heriau sylweddol.  

Isod, amlinellwn rhai syniadau y gallai pleidiau gwleidyddol Cymru eu hystyried wrth lunio eu maniffestos go gyfer â’r etholiad cenedlaethol arfaethedig.  


Addysg: yr angen i ddeddfu er mwyn sicrhau seiliau cyfreithiol ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg a’r hawl i’w dderbyn. Gosod ar seiliau cyfreithiol y dynodiadau newydd ar gyfer natur ieithyddol ysgolion er mwyn cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n cael cyfle teg i dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg

Cynllunio Defnydd Tir: yr angen i ddatblygu polisïau a mecanweithiau cadarn a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i gymryd ystyriaeth arwyddocaol o’r Gymraeg mewn penderfyniadau defnydd tir – gan gynnwys sefydlu methodoleg gyffredin er mwyn cynnal asesiadau effaith ieithyddol – a chyflwyno deddfwriaeth ar sail hynny.

Economi Sylfaenol: yr angen i addasu pwyslais polisïau datblygiad economaidd i gyfeiriad cefnogi a datblygu’r economi sylfaenol, sef y rhan o’r economi sy’n gyfrifol am 40% o swyddi yng Nghymru.

Datblygiad Cymunedau: yr angen i gefnogi mentrau cymunedol a chydweithredol, gan sicrhau eu bod yn atgyfnerthu hyfywedd cymdeithasol y Gymraeg.

Adferiad gwyrdd: yr angen i hyrwyddo economi werdd yng Nghymru a gweld hynny fel modd i gryfhau hyfywedd economaidd ein cymunedau Cymraeg.

Amaethyddiaeth: yr angen i sicrhau hyfywedd yr economi amaethyddol, gan gydnabod ei arwyddocâd arbennig i ddyfodol y Gymraeg a chymunedau Cymraeg Cymru.

Y Farchnad Dai: yr angen i ystyried cymryd camau pendant i reoli gwerthiant tai mewn ardaloedd sy’n ieithyddol sensitif, e.e. cynnal ymchwil trwyadl o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, y mesurau sy’n cal eu gweithredu mewn mannau y tu allan i Gymru, gan ddatblygu polisi a deddfwriaeth effeithiol ar sail hynny.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: yr angen i gymryd camau pellach i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal yn derbyn y gwasanaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gynllunio gweithlu sy’n gynyddol ddwyieithog.

Sefydliadau Cymraeg: yr angen, yn wyneb y pandemig cyfredol, i Lywodraeth Cymru barhau i gynnig cefnogaeth ariannol i sefydliadau diwylliannol Cymraeg.

Polisi a Chynllunio Iaith: yr angen i sefydlu uned polisi a chynllunio iaith gref o fewn Llywodraeth Cymru a fyddai hyd braich o waith Gweinidogol ac a fydd yn gallu mynd i’r afael â’r gwaith o lunio cynlluniau hir dymor ar gyfer cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg.

Sgiliau Iaith ac Ymwybyddiaeth Iaith: yr angen i gynnig cyfle i bob un sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac yn enwedig uwch swyddogion, i dderbyn hyfforddiant sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth iaith yn rhad ac am ddim.