Newyddion

Addysg Gymraeg/Ddwyieithog i Bawb – Mapio’r ddarpariaeth gyfredol

Mae Dr Gwennan Higham ar ran Prifysgol Abertawe a  IAITH: y ganolfan cynllunio iaith  wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn cynnal gweithdai ar y thema Addysg Gymraeg/Ddwyieithog i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol.

mwy

(Ychwanegwyd ar 14/10/2021)

Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu

25 Tachwedd, 10:00 – 1:00

Sut gall Gynghorau Cymuned a Thref gyfrannu i Lesiant y Gymraeg

Mae'r Gymraeg yn rhan o'r gwead cymdeithasol a diwylliannol ym mhob tref a chymuned yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at eu hymdeimlad unigryw eu hunain o le a thraddodiadau. Mae'r Digwyddiad Rhwydwaith hwn wedi'i anelu at gynghorau tref a chymuned sy'n cymryd camau i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg eu hunain, cefnogi’r defnydd o'r Gymraeg yn eu cymunedau, ac yn ystyried neu’n cymryd rhan mewn creu lleoedd/cynllunio.

Rhaglen

Crynodeb Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu, 25 Tachwedd 2021

mwy

(Ychwanegwyd ar 07/10/2021)

Cenedl Noddfa? - Cyfle i wylio eto

Cyfle i wylio eto fel rhan o Eisteddfod AmGen

5ed o Awst am 4:00.

mwy

(Ychwanegwyd ar 04/08/2021)

Cenedl Noddfa? Profiadau ffoaduriaid o ymgartrefu yng Nghymru

Eleni mae IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yn cynnal digwyddiad i drafod profiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ymgartrefu yng Nghymru. 

mwy

(Ychwanegwyd ar 14/07/2021)

No image available

Mae  IAITH yn edrych ymlaen at ddechrau peilota cwrs  newydd ar  bendantrwydd iaith gyda Mudiad Meithrin  fel rhan o brosiect LISTEN.      

Mae prosiect LISTEN yn treialu rhaglen hyfforddi sy’n helpu siaradwyr ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol i fynegi eu hunain yn eu hiaith eu hunain tra’n teimlo’n dawel ac yn hunan-sicr.

• Bydd yr hyfforddiant yn cynnig strategaethau pan fydd pobl yn ansicr a yw eu cymheiriaid yn siarad yr un iaith.

• Bydd y fethodoleg hon yn cael ei chefnogi gan ddeunydd darllen, fideos, ac adnoddau.

• Prif ganlyniad y prosiect LISTEN fydd datblygu methodoleg ar gyfer addasu cysyniad ‘hyder ieithyddol’ (language assertiveness) i sefyllfaoedd penodol a datblygu cyrsiau ar gyfer siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

Am ragor o fanylion cysylltwch gyda post@iaith.cymru 

https://www.iaith.cymru/uploads/general-uploads/Hyfforddiant_Pendantrwydd.pdf

mwy

(Ychwanegwyd ar 22/03/2021)

No image available

Mae partneriaeth LLECHI, GLO a CHEFN GWLAD yn eich gwahodd i webinar fore dydd Iau, 25 Chwefror (11.00 – 12.00 o’r gloch) i ddathlu blwyddyn gyntaf y prosiect arloesol hwn. Mi fydd yr arweinwyr newydd eu hunain yn eich cyflwyno i’w gwaith yn lleol ac i swmp a sylwedd y  croesffrwythloni cyffrous sydd wedi deillio o’u cydweithio. Ac i’w holi am y glo mân (fel petai) y bydd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth. 

Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_iJn_fkSxSZeM6B5HdlE29A

Am gymorth neu ragor o fanylion cysylltwch â post@iaith.cymru

mwy

(Ychwanegwyd ar 12/02/2021)

No image available

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi  astudiaeth  IAITH o Gredoau rhieni, eu hymddygiadau a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu: gofal plant ac addysg gynnar. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar sampl o rieni nad oeddent yn defnyddio addysg gynnar neu ofal plant a ariennir gan y llywodraeth.

Gellir gweld yr astudiaeth yma:https://llyw.cymru/credoau-rhieni-eu-hymddygiadau-ar-rhwystrau-y-maen-nhwn-eu-hwynebu-gofal-plant-ac-addysg-gynnar

mwy

(Ychwanegwyd ar 15/01/2021)

No image available

Creu Lleoedd yw ffordd Llywodraeth Cymru o wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r system gynllunio. Yn ystod yr “Eisteddfod Amgen” (yr Eisteddfod rhithiol) ym mis Awst, cyflwynodd Owain Wyn, BURUM a Dr Kathryn Jones: IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith weminar yn trafod cynllunio defnydd tir yng Nghymru o safbwynt “Cymru…. lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”, ac yn benodol, targed y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r erthygl hon gan Owain yn crynhoi’r cyflwyniad hwnnw ac yn trafod beth y gall ac y dylai cynllunwyr ei  wneud yn rhyngddisgyblaethol i gryfhau cyfraniad Creu Lleoedd i’r ymdrech genedlaethol.

mwy

(Ychwanegwyd ar 04/12/2020)

No image available

Mae prosiect Listen ar hyder ieithyddol  wedi lansio gwefan amlieithog newydd yn https://listen-europe.eu/cy/hafan/. Mae'r wefan yn casglu gwybodaeth a newyddion am brosiectau, yn ogystal â darparu llwyfan ar gyfer datblygiadau prosiect yn y dyfodol.

Un o amcanion prosiect Listen yw addysgu'r cysyniad o bendantrwydd iaith i siaradwyr ieithoedd cyd-swyddogol, ieithoedd sydd mewn perygl.ieithoedd brodorol, 'rhanbarthol' a lleiafrifol (IRhLl) 

mwy

(Ychwanegwyd ar 25/11/2020)

No image available

Ym mis Mai 2021 cynhelir etholiadau ar gyfer Senedd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod fframwaith polisi uchelgeisiol yng nghyswllt y Gymraeg gyda’i dogfen Cymraeg 2050 (Llywodraeth Cymru: 2017). Mae’r ddogfen wedi derbyn cefnogaeth gyffredinol gan drwch o Aelodau Senedd Cymru o bob plaid. Er hynny, a’r ewyllys da sydd i’r Gymraeg ar draws Cymru, mae’r Gymraeg yn parhau i wynebu heriau sylweddol.  

Isod, amlinellwn rhai syniadau y gallai pleidiau gwleidyddol Cymru eu hystyried wrth lunio eu maniffestos go gyfer â’r etholiad cenedlaethol arfaethedig.  

mwy

(Ychwanegwyd ar 13/10/2020)

Tudalen 4 o 9 Tudalennau.

Aelodaeth

Ymunwch â IAITH heddiw.

Dewch yn aelod

Digwyddiadau

02 Mai 2024

Cylchlythyr

Cofrestrwch yma i dderbyn gwybodaeth am ddatblygiadau polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.

Cofrestru