Newyddion

IAITH yn ehangu’r tîm

Mae IAITH yn falch o groesawu tîm o Ymgynghorwyr Cysylltiol newydd i gydweithio ochr yn ochr â’r staff craidd. “Wrth edrych ymlaen i gyfnod newydd yn hanes y cwmni, rydyn ni’n falch o fedru cyhoeddi tîm cryf o Ymgynghorwyr Cysylltiol a fydd yn gweithredu dan faner IAITH”, meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Dr Kathryn Jones.

mwy

(Ychwanegwyd ar 27/07/2016)

No image available

Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy yn natblygiad proffesiynol y sector polisi a chynllunio iaith. Dyna oedd neges Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH, yng Nghyfarfod Blynyddol y ganolfan cynllunio iaith ar 13 Gorffennaf.

mwy

(Ychwanegwyd ar 18/07/2016)

Newid awenau yn IAITH

Ar ôl cyfnod o bron 20 mlynedd yn arwain IAITH: y ganolfan gynllunio iaith, mae’r Prif Weithredwr, Gareth Ioan,  wedi penderfynu trosglwyddo awenau’r Ganolfan i’w olynydd. 

mwy

(Ychwanegwyd ar 14/07/2016)

Gwerthuso Cynllun Gaeleg yr Alban

Mae IAITH a Phrifysgol Caeredin yn cynnal gwerthusiad o Gynllun Iaith Gaeleg Cenedlaethol 2012 – 2017.

mwy

(Ychwanegwyd ar 19/05/2016)

Siaradwyr Newydd

Bydd Dr Kathryn Jones (IAITH) yn cyfrannu i gynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Hamburg ddydd Gwener, 13 Mai.

mwy

(Ychwanegwyd ar 11/05/2016)

Cymraeg i Blant, Llywodraeth Cymru

Mae IAITH yn hynod falch o’r cyfle a gafwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru i sefydlu a datblygu’r cynllun Twf dros y 15 blynedd ddiwethaf a’r prosiect Tyfu gyda’r Gymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf. Credwn ein bod wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i gyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar aelwydydd Cymru yn ystod y cyfnod hynny, yn ogystal â chodi proffil y Gymraeg ym myd rhianta cynnar. 

mwy

(Ychwanegwyd ar 05/04/2016)

‘Mwy na Geiriau’

Dros y misoedd diwethaf, mae IAITH wedi bod yn gweithio gydag adran gweithlu gofal cymdeithasol Cyngor Wrecsam.

mwy

(Ychwanegwyd ar 22/02/2016)

IAITH ar waith yn yr Alban

Mae IAITH yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi ein comisiynu i gynnal arolwg interim o weithrediad y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer yr Iaith Aeleg 2012-17 ar ran Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban. 

mwy

(Ychwanegwyd ar 17/12/2015)

#DysguCymraeg

Dros y flwyddyn diwethaf bu IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac Urdd Gobaith Cymru yn cydweithio ar brosiect newydd, cyffrous.

mwy

(Ychwanegwyd ar 03/12/2015)

Ffarwel Elaine

Mae IAITH yn dymuno’n dda iawn i Elaine Davies wrth inni ffarwelio â hi ar achlysur ei hymddeoliad ganol Tachwedd. Bu Elaine yn aelod allweddol o staff IAITH am 14 mlynedd.

Wedi gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol fel gweithiwr cymdeithasol, rheolwr a swyddog hyrwyddo Rhaglen Gymraeg CCETSW, daethmwy

mwy

(Ychwanegwyd ar 13/11/2015)

Tudalen 7 o 9 Tudalennau.

Aelodaeth

Ymunwch â IAITH heddiw.

Dewch yn aelod

Digwyddiadau

02 Mai 2024

Cylchlythyr

Cofrestrwch yma i dderbyn gwybodaeth am ddatblygiadau polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.

Cofrestru